Pryd a sut y cydiodd y syniad
am dre Fasnach Deg?
Roedd cefnogwyr Cymorth Ccristnogol
a Traidcraft wedi bod yn weithgar yn tynnu sylw at fasnach deg
yng Nghwm Aman am flynyddoedd. Bu Oxfam a Tearcraft hefyd yn weithredol
ar raddfa lai
Rydw i’n rheolwr siop OXFAM yn
Abertawe a tra’n gweithio ar rai digwyddiadau ar gyfer Pythefnos
Fasnach Deg yn 2002 darllenais ddarn am drefi masnach deg. Wrth
edrych ar y "pump nôd" meddyliais bod Rhydaman eisioes
yn ateb i’r rhan fwyaf o’r gofynion, a byddai’n beth da i gael
statws tre Masnach Deg, nid yn unig i hyrwyddo masnach deg ond
hefyd i gydnabod gwaith y bobl a fu wrthi am amser hir yn cefnogi
masnach deg.
Roeddwn wedi paratoi cyfeiriadur
masnach deg ar gyfer Rhydaman adeg Pythefnos Masnach Deg 2000
gyda help cefnogwyr Cymorth Cristnogol a Traidcraft. Credwn mae
dyma’r cyfeiriadur cyntaf dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Diweddarwyd
a chynhyrchwyd cyfeiriadur newydd yn 2002 a’i roi gyda chopïau
o’r "pum nôd" a llythyr i grwp bach o fusnesau, eglwysi,
ysgolion ac eraill y meddyliem y byddent yn cefnogi ein symudiad
i gael statws tre masnach deg.
Roedd Cyngor y Dref, ein A.S ac
Aelod o’r Cynulliad yn gefnogol. (Mae swyddfa Plaid Cymru yn ardal
Fasnach Deg!)
Pasiwyd penderfyniad yn y Cyngor
ym mis Mai i gefnogi ac ym Mehefin roeddwn wedi cael digon o gefnogaeth
cadarnhaol gan fudiadau eraill i gwrdd â gofynion y pum nôd.
Sefydlwyd grwp llywio ym Mehefin
i sicrhau mae cael y statws o Dre Fasnach deg yw’r dechreuad.
Rydyn wedi cwrdd â gofynion y pum nôd ond mae angen i ledu’r newyddion
ymhellach os ydyn yn mynd i wir alw tre Rhydaman yn dre Fasnach
Deg.
Pa wahaniaeth bydd statws Masnach
Deg yn ei wneud i’r dref?
Mae’n amser ansicr ar gyfer Rhydaman
fel canolfan siopa ar hyn o bryd. Mae llawer o sôn wedi bod yn
ddiweddar a sylw’r cyfryngau wedi ei ganolbwyntio ar ofnau pobl
am y dyfodol – effaith ffordd osgoi arfaethedig a thaliadau parcio.
Roedd y stori am Dre Rhydaman
fel tref Fasnach Deg yn stori dda. Mae diddordeb mawr gan y cyfryngau
yn y stori hon gan ei bod yn stori newyddion dda i ddyrchafu’r
dre fel canolfan siopa.
Hefyd, unrhyw bryd y daw cymuned
at ei gilydd mewn ymgyrch bositif,
Mae’n beth da i’r dre.
Mae bod yn dre Fasnach Deg, y
gyntaf yng Nghymru yn rhoi’r teimlad o deimlo’n dda.
Pa achlysur fu i lansio Tre fasnach
Deg?
Cynhaliodd Ysgol Babanod Rhydaman(Yr
ysgol gyntaf yn y dref i fod yn Ysgol Fasnach Deg) Ddydd Bananas.
Gwisgodd yr athrawon a’r plant ddillad melyn a chafwyd cyfarfod
arbennig yn trafod nwyddau masnach deg a chanu caneuon addas-
caneuon am heddwch o amgylch y byd a "Bananas mewn Pyjamas"
Roedd aelodau o’r Cyngor Llywio
yn bresennol yn ogystal â Maer y dref a’r Aelod Seneddol
Cafodd y plant i gyd fanana Fasnach
deg gan Siop y Co-op lleol a phecyn o nwyddau ,sticeri, samplau
o de/coffi oddi wrth y Co-op, Oxfam a Chymorth Cristnogol.
Roedd y plant a’r bananas yn gyfle
da i gael llun a chafwyd tipyn o gyhoeddusrwydd yn y wasg. Roedd
y ffaith mae ni oedd y dref Fasnach Deg gynta yng Nghymru hefyd
wedi ein helpu i gael sylw rhagorol ar deledu a radio cenedlaethol
S4C a BBC.
|